Slide background
Slide background
Slide background
Slide background
Slide background
Slide background
Slide background
Slide background
Slide background

Cyfraith ddwy-ieithog a’r iaith Gymraeg yn y Llys Gweinyddol

Mewn penderfyniad diweddar parthed ad-drefnu ysgolion yng Nghymru ceir cymorth barnwrol, am y tro cyntaf, ar y dull gywir i ddehongli statud dwy-ieithog. Mae’r dyfarniad yn pwysleisio pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg yn fwy eang, hefyd, ysgrifenna Owain Rhys James ac Isabelle Knight.

Cais am adolygiad barnwrol oedd R (Driver) v Rhondda Cynon Taff County Borough Council [2020] EWHC 2071 (Admin). Sialens i benderfyniad Cyngor Bwrdresirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”), wedi ei ddyddio 18 Orffennaf 2019, i ad-drefnu ysgolion cynradd, uwchradd a chweched dosbarth yn ardal Pontypridd.

Rhoddwyd caniatad i’r hawlydd ddadlau pedair sail:

  • Sail 1: Bod y penderfynniad i ad-drefnu yn un a gymerwyd yn groes i anghenion rhan 50 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) gan i’r Cyngor beidio a cyfeirio’r penderfyniad at Weinidogion Cymru.
  • Sail 2 (d): Bu’r Cyngor fethu rhoi sylw i ymateb Estyn, yn groes i ofynion Cod Ad-drefnu Ysgolion 2013 (“y Cod”).
  • Sail 2 (f): Bu’r Cyngor fethu edrych ar opsiynnau gwahanol fel rhan o’r broses ymgynghori.
  • Sail 2 (g): Bu’r Cyngor fethu edrych ar effaith y penderfyniad ar ddatbglygu’r Iaith Gymraeg, yn groes i’r Cod.

Rhoddwyd caniatad i Gomisynydd y Gymraeg i ymyrryd parthed sail 2(g) yn unig. Rhoddwyd tystiolaeth y Comisynyddd yn ddwy-ieithog.

Clywyd yr achos gerbron Fras J yn rhithiol. Ymddagonosodd Rhodri Williams QC a Nia Gowman ar gyfer yr Hawlydd. Ymddangosodd Julian Milford QC a Katherine Eddy. Owain Rhys James oedd Cwnsler Comisynydd y Gymraeg: cyflwynwyd ei ddadl ysgrifenedig ac argymellion ar lafar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Penderfyniad y Llys

Bu’r achos yn llwyddianus ar sail 1 a 2(g).

Sail 1

Mae Rhan 50 (2) (a) o’r Ddeddf yn nodi, cyn belled ag sydd yn berthnasol, bod angen i gynigion gael ei cymeradwyo gan Weinidogion Cymru “os ydynt yn gynigion i sefydlu neu derfynu ysgol sy’n darparu addysg sy’n addas at anghenion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol yn unig”. Y cwestiwn ger bron y Llys oedd ai’r ysgol neu’r fath o addysg a oedd yn cael ei amodi gan ddefnydd y geiriau “yn unig”.

Dadl yr Hawlydd oedd bod y cynnigion i gau 2 o’r ysgolion yn gynigion a ddylid ei cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Dadl y Diffynydd oedd buod yr adran ond yn berthnasol pan bo cau ysgol sy’n darparu addysg ar gyfer y rhai hynny sydd dros oedran ysgol (h.y. colegau chweched dosbarth).

Cytunodd y Llys a dadansoddiad statudol yr Hawlydd. O rheidrwydd felly roedd penderfyniad y Cyngor yn un anghyfreithlon. Golygir hynny bod yn rhaid i unrhyw gynigion sydd yn effeithio ar addysg chweched dosbarth gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cyrmu.

Nododd Fraser J: “I consider that in order to give proper effect to the primary legislation as well as section 1(3)(c)(i) of the Welsh Language (Wales) Measure 2011, I have to consider the meaning of the Welsh language text of the 2013 Act as well as the English text, insofar as I am able to do so.”

Deallir i’r uchod fod yn dro cyntaf i’r Llys gael ei wahodd i ddadansoddi statud yn ddwy-ieithog. Mae’r penderfyniad yn pwysleisio cydraddoldeb testun yr iaith Gymraeg a’r Saesneg. O.r achos, pan fo statud wedi ei ddraftio yn ddwy-ieithog rhaid edrych ar y ddwy iaith er mwyn nodi gwir ddadansoddiad y statud. Mae hynny yn bwynt pwysig i gyfreithwyr sydd yn ymarfer yng Nghymru.

Sail 2 (g)

Mae’r Cod yn nodi y dylid ystyried sut y gallai’r cynigion effeithio ar gynaliadwyedd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y rhwydwaith 14-19 lleol a'r ardal ehangach, neu’r gwaith i’w gwella, a hyrwyddo mynediad i'r cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael mewn addysg ôl-16. (paragraff 1.9)

Ymhellach, ym mhob achos, rhaid i ddisgyblion presennol mewn ysgol lle mae’r ddarpariaeth yn cael ei lleihau neu ei dileu allu parhau i dderbyn addysg sy’n darparu o leiaf yr un safonau a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eu cyfrwng iaith presennol. (paragraff 1.4)

Dadl yr Hawlydd oedd bod newidiadau i ysgolion cynradd cyfrwng y Gymraeg o rheidrwydd yn effeithio ar addysg uwchradd. Cytunodd Fraser J a’r ddadl hynny. O ganlyniad, yr oedd angen i’r cynnigion hynny edrych ar yr effaith ar addysg uwchradd Gymraeg: roedd assesiad y Cyngor o’r materion hynny yn anigonol.

Yn ei ddyfarniad, nododd bod y Cyngor wedi “failed entirely to consider how the reorganisation would impact upon Welsh medium secondary education.”

Dadl y Cyngor oedd bod cyflawni Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg yn ddigonol. Ond, dyfarnodd Fraser J: “i would estimate that in approximate terms, only about 10% (at the most) of this document even considers impact on the use of the Welsh language at all, let alone how the proposals would affect the sustainability or enhancement of Welsh medium education. The document recites a commitment to the Welsh Government Cymraeg 2050 target, but more is required under Paragraph 1.9 of the 2013 Code than a simple recitation of this.”

Fe wnaeth yr Hawlydd hefyd rhoi pwyslais ar adroddiad comisynydd y Gymraeg. ROedd yr adroddiad hynny yn delio a materion parthed Safonnau’r Gymraeg. Roedd y Comisynydd yn niwtral yn yr achos adolygiad barnwrol. Fe wnaeth y barnwr dderbyn bod adroddiad y Comisynydd yn berthnasol, er hynny, i’w ddyfarniad.

Sylwadau

Dyma’r tro cyntaf i ddeddfwriaeth gqel ei ddadansoddi gan gyfeirio at destun ddwy-ieithog y statud, Y mae’r dyfarniad yn rhoi canllawiau ymarferol ar y ddull gywir ac yn pwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg yn fwy eang.

Cafodd Owain Rhys James ei gyfarwyddo gan Trish D’Souza a Lowri Roberts o Capital Law ar rhan Comisynydd y Gymraeg, Roedd Comisynydd y Gymraeg yn niwtral o fewn yr achos ac fe ganiatwyd iddo ymyrryd parther sail 2 (g), yn unig.